Skip to main content
Outdated Browser

For the best experience using our website, we recommend upgrading your browser to a newer version or switching to a supported browser.

More Information

Fiction

Y Syrcas

By Robin Llywelyn
Translated from Welsh

For the English translation, please click here.

Dim ond geiriau yn fy mhen ydyn nhw bellach a finnau’n cau fy llygaid. Dwi’n cau fy llygaid a’m clustiau am byth o sŵn y syrcas a dringo’r llwybrau tua’r lle mae Wil Pont Ucha Braich yn aros amdanaf. Abwyd i ladron, meddai’r papurau, oedd y sofran yn ei boced. Sgwn i ddaru amser rewi iddo fyntau ac yntau’n clywed blas, clywed sŵn, clywed poen a gweld y byd ar un amrantiad?

Chwarddodd y giang wrth ddal golau’r lleuad yn llygad y darn o aur a Wil yn suddo i ffynnon ebargofiant. Pan gododd o’r dŵr roedd y byd yn wahanol. Lle bu’r caeau’n llenwi’r cof roedd erwau o iaith estron a’r creigiau’n gwegian uwch ei ben ym Mhraich-y-Pwll a thalcen sgubor Tyddyn Isa ar fin syrthio. Nid oedd o’n nabod y wlad hon. Dim ond y tylwyth teg welodd o’n croesi tuag atyn nhw dros lwybr y lleuad llawn ar draws y môr heibio Iwerddon.

Pan dynnwyd ei gorff o’r mawn roedd rhai’n dweud ei fod o fel petai’n cysgu. Un tro roeddwn i wedi gofyn iddo fo oedd yna ryw ddaioni yn y byd.

“Oes, rhwng fan hyn a Baltimôr yn rhywle,” meddai.

Roedd y giang i gyd yn y gorlan flaen a’u dwylo’n estyn at lawes y dyn syrcas. Dyn o bwys a’i fwstas startsh a’i got laes goch a’i drywsus gwyn oedd hwn a’i chwip yn ffraeth a’i fwtsias yn sgleinio fel tin sosban. Chymrodd o ddim sylw o’r hogia drwg yn y gorlan flaen. Welodd o mo Llinos a finnau chwaith er ein bod ni’n dilyn ei holl ystumiau. Pan aeth i’r cefn am hoe es innau i nôl candi fflos i’r ciosg a gwylio’r we binc yn troi mewn padell arian.

“Cofia dy newid,” meddai’r ddynes hefo’r sgarff goch am ei phen a gwthio rhyw bres i’m llaw.

“Pan dwi’n dy freichiau mae’r byd yn gynnas,” meddai Llinos a’i llygaid fel dwy seren. Gafaelodd yn fy llaw a’i rhoi ar ei bol. “Hogyn ydio,” ychwanegodd.

“Fedra’i ddeud rywsut.”

Drannoeth a’r glaw yn bwrw fel hafau erstalwm edrychais allan o’r ffenest a’u gweld yn eu hetiau a’u cotiau yn dŵad i fyny’r stepiau tuag atom. Dim heulwen ar y tonau na hwylbrenni. Roedd yna rywbeth yn bwrpasol yn nhoriad eu coleri.

Roedd hynny ddeuddeng mlynedd yn ôl. Ers hynny dwi yma mewn caets mwnci a Llinos wedi mynd. Ges i gerdyn ganddi ryw dro o Efrog Newydd yn dweud mai. Ianto oedd enw’r plentyn.

Wn i ddim ydw i wedi cyrraedd rhyw gopa ond mae’r gwagle oddi tanaf yn fy nychryn ac yn codi pensgafndod arnaf. Dwi’n cofio nhw’n dweud wrtha’i am wagio fy mhocedi a finnau’n cael fy holi. Roeddan nhw’n holi pawb o’r cymdogion.

Galwodd y swyddog ar ei bennaeth. “Sbïwch be sgin y gingroen yn ei boced.”

Doeddwn i rioed wedi gweld y sofran o’r blaen. Roedd hi’n pelydru’n dawel fel haul drwy’r niwl a’i lliw yn felyn yn llygaid y wardeniaid. Rhoes y pennaeth faneg dryloyw am ei law a chodi’r dystiolaeth rhwng bys a bawd. Rhoes ei ben ar osgo i sbïo arnaf a’r rhwydi cochion yn berwi yng ngwyn ei lygaid.

“Lle oeddach di cyn mynd i’r syrcas?” meddai. “Lle’r es ti wedyn?”

“Tyn dy grafangau oddi arna’i,” meddwn innau. “Sgin i ddim byd i’w guddio.”

“Mae gan bawb rywbeth i’w guddio,” meddai. “Ein gwaith ni ydi darganfod be ydi o.”

Cododd declyn rhwng bys a bawd a gwasgu botwm i agor sgr—n i ddangos lluniau o’r lle cafwyd y corff yn gorwedd. Mawndir eang a phyllau duon hefo bryniau isel draw. Pwll mawn llawn dŵr a thraed Wil Pont Ucha Braich yn sticio allan. Unwaith wyt ti wedi bod yng Nghors y Bryniau wnei di mo’i hanghofio hi. Fues i ddim ar gyfyl y lle noson y syrcas.

Dywedais wrthyn nhw fy mod i’n ddiniwed.

Diffoddodd y pennaeth y sgr—n. “Tydan ni ddim yn arestio neb diniwed,” meddai.

“A hyd yn oed os basat ti’n ddiniwed, fedren ni mo’th ollwng di’n rhydd rhag ofn i bobol ddechrau poeni fod rhai diniwed yn cael eu harestio.”

“Diolch am egluro,” meddwn innau.

Pan fydden nhw’n fy nghuro ar fy mriwiau du las newydd byddai fel tollti dŵr berwedig ar hyd fy nghoesau. A finnau wedi blino byddwn i’n goro sefyll yn fy unfan. Fyddai fiw imi rwgnach am yr oerni neu’n droednoeth yr eira fyddwn i’n sefyll. Pan fyddwn i’n sychedig y diwn gron fyddai: Ddŵr i garcharor ddaw a phiso yn ei sgil. Ges i lond bol, gofynnais gawn i roi’r ffidil yn y to. Roeddwn i isio ildio.

“Ildio?” sgrechiodd gwas yr arteithiwr a’i llgada’n glafoerio. “Be s’an ti’r basdad.” Roedd ei ddannedd yn fy ngwddw cyn imi droi a finnau’n gollwng sgrech.

“Gad o,” meddai’r prif arteithiwr. “Dos am dy baned.” Taflodd geiniog neu ddwy ato.

Cyfaddefodd y twrnai a roddwyd imi iddo gysgu yn ystod yr achos.

“Pam lai?” meddai. “Roedd hi’n amlwg i bawb dy fod ti’n euog.”

“Pam na fasat ti wedi bargeinio?”

“Hefo be?” meddai a thanio sigarét. “Candi fflos?” Ofynnodd o ddim oeddwn i’n smocio.

Welis i mo’r twrnai wedyn ond mi welais y prif arteithiwr. Do, ymhen blynyddoedd. Roedd o’n edrych arna’i drwy gil ei lygaid. Yr un golau oedd yn pefrio o’i lygaid ac o’r blaen, hen olau melyn fel llygad madfall.

Eglurodd nad oedd ganddo ddewis ond fy ngham-drin o’r blaen. Roedd o’n waith, roedd o’n cynnal ei deulu. Ac oni bai amdano fo mi fyddai eraill saith gwaeth yn ei le, y gwas efallai, a rhes o rai eraill y tu allan yn curo ar y drws isio roi cynnig arni.

Eglurodd hefo’r cyrn gwrando am ei ben na fyddai’n clywed y sgrechian. Fyddai’r ffedog yn cadw’i ddillad rhag y gwaed. Byddai pawb hwyr neu hwyrach yn cerdded y tri cham ar ddeg i’r theatr fach a’r gwely gwyn. Wedi’r gawod a’r dillad glân, ac yntau’n swatio’n ei sedd ar y bws adref trwy’r caeau ŷd, byddai’i feddwl yn tawelu ac yn troi at bethau amgenach.

Dywedodd wrthyf iddo gael dyrchafiad dri diwrnod ar ôl fy nhrin. ‘Symud i fyny’r grisiau,’ oedd ei eiriau. Dyna lle roeddan nhw’n penderfynu’r polisïau. Roedd yno garped o dan draed. Ond roedd y coffi o beiriant botymau ac roedd y ffenestri’n cau agor; roedd hi’n rhy boeth yn yr haf ac eto drwy’r gaeaf fyddai’r gwres canolog byth yn gweithio.

Fi oedd y carcharor diwethaf iddo ei brosesu. Roedd o’n falch nad oedd o ddim yn y busnes yna ddim mwy. Dair blynedd yn ôl collodd gefnogaeth y pennaeth a chafodd ei gyhuddo o fod yn wrth-chwyldroadwr. Roedd ei lygaid ymlusgiaid yn pefrio arnaf. Roedd o’n mynd i’w ateb drannoeth, wedi gofyn am fy ngweld. Mae’n siŵr ei fod o’n nabod digon yma i gael ambell ffafr. Wn i ddim pam ei fod isio ‘ngweld i. Hwyrach nad oedd neb heblaw fi ar ôl o’r rhai a fu dan ei ddwylo.

Mae’n anghyfreithiol cyfathrebu yn y carchar hwn heb ganiatâd. Tydan ni’n byw yma fel chwain ar gynffon llwynog. Rydan ni’n nofio dros y rhaead. Dim ond weithiau daw’r atgof am yr haul trwy’r niwl fel melynwy ŵy mewn blawd a phatrwm brethyn y llarwydd melyn a’r coed p—n fel locsyn morwr ar hyd y lôn.

Mae ganddon ni wyddor newydd i siarad drwy’r waliau. Fedar y gwarchodwyr mo’i lladd hi, ond maen nhw’n cau dallt run gair na’i dysgu hi eu hunain. Dan ni’n diodda os ydan ni’n cael ein dal yn ei harddal hi.

Ond am ein bod yn gaeth mewn unigrwydd mae’r ysfa i gyfathrebu yn drech nag arglwyddi amsar. Tydan ni ddim yn gallu bod mewn byd heb neb heblaw ni’n hunain. Dyna pam mae’n bwysig cnocio waliau’n cymdogion.

Rydan ni wedi rhannu’r wyddor yn bump colofn o bump llythyren ac wedi rhoi dau rif i bob un. Taro’r rhifau hynny a bwlch yn y canol. Fe gymrodd dri mis imi ddallt sut oedd o’n gweithio a medru dallt y cwestiwn cyntaf, “Pwy wyt ti?” oedd wedi bod yn cael ei ofyn imi gan fy nghymydog ers deuddeg wythnos.

Roedd briwsion o gyfathrebu felly’n amheuthun i’r rhai a lwgai am gwmpeini. Byw mewn blwch a’r golau yn dy lygaid heb wybod na’r awr o’r dydd na’r nos a neb ddim callach o’th fodolaeth.

Cerddais yn fy nghell bob cam i America. Nôl ac ymlaen fel pendil cloc, cyfrif’r camau, dychmygu’r siwrne. Troi’r gornel yn y stryd tu cefn i’r carchar a chroesi’r gamlas dros bont y cariadon. Lawr y rhodfa fawr dan gysgod llwyd y dail a’r ymbarelau. O ddwndwr y ddinas i’r maestrefi a’r gwastadeddau. Cerddedd y lonydd diarth am y gorllewin. Cyrraedd y ffin a thrio’i chroesi. Pan ti mewn cell ti ddim angen pasport. Croesi Ffrainc i gyd a Llydaw. Mynd i’r môr yn ymyl Brest. Cerddais fel Iesu ar wyneb y tonnau gan gyfri cilomedrau fesul mil o gamau. Ambell waith byddai heigiau o bysgod yn cosi fy fferau. Dro arall cawn gwmpeini llambedyddion. Unwaith gwelais aderyn ar adain lydan yn troelli fel cudyll uwch fy mhen.

Ymhen hir a hwyr daeth y gwylanod i’m croesawu i’r byd newydd a finnau’n gweld seren las yn codi dros y gorwel. Gweld bryncyn glas a dau lyn glas arno. Gweld llaw yn dal ffagl dân fydd byth yn llosgi. Lawr yn y Tir Chwalu ar ben Hir Ynys. Mynd yn ddi-ffeth yr holl ffordd i’w thŷ yn y Ddinas Newydd.

Roedd fy ngwraig yn sefyll a’i chefn ataf yn y gegin yn tafellu ciwcymber hefo cyllell o Siapan. Pesychais. Troes hithau ar ei sawdl ac aeth y gyllell drwydda’i fel tawn i’n wynt. Troes yn ôl at y sinc gan weiddi ar Jeff i agor ffenest, ei bod hi’n oer.

“Paid â malu,” meddai’r dyn. “Mae hi’n ganol Gorffennaf.”

“Wn i hynny,” meddai hi. “Hwyrach mai’r peiriant awyru sy’n rhy gry.” Aeth o’r gegin ac mi es innau ar ei hôl hi.

Nid i sbïo’r peiriant awyru’r aeth hi ond i sefyll ar y feranda a syllu tua’r dwyrain. Roedd hi’n noson gynnes glos. Sbïodd ar y s’r. Hwyrach ei bod hi’n cofio amdanom ni fel yr oeddan ni ac yn clywed aroglau llosgi’r ffridd yn ei ffroenau.

“Pan oeddwn i yn dy freichiau unwaith mi ddywedaist wrtha’i fod dy fyd yn gynnes,” meddwn i wrthi. “Rŵan dwi’n dy wneud di’n oer.”

Aeth o’r feranda fel petai gwynt wedi ei chwythu’n ôl i’r tŷ. Sgwn i weithiau fydd hi rhwng nos a bore’n deffro a’m llais yn dal yn ei chlustiau? Hwyrach ei bod hi’n falch i gael ei thraed yn rhydd yma’n y byd newydd. Hwyrach na fedr hi ddim yngan fy enw i erbyn hyn. Gofynnais iddi ond ches i ddim ateb.

Es i heibio iddi ac i fyny’r grisiau. Roedd yna hogyn yn ista ar wely’n chwarae g’m ar sgr—n. Eisteddais ar ei wely. “Ianto wyt ti, ynde?” meddwn i.

Cododd ei ben.

“Cer i dy wely, Ianto,” meddai llais ei fam o waelod y grisiau.

Rhoes ei law ar fy ngl—n, aeth drwodd i’r gwely. “Mae’r gwely’n wlyb soc, mam,” gwaeddodd.

“Pwy ddiawl sydd yn fan’na hefo chdi?” meddai’i fam. Clywn ei sodlau’n clepian ar y grisiau.

“Tydw i ddim wedi gwneud dim byd,” meddai Ianto.

“Arnaf i mae’r bai,” meddwn i.

“Dŵr môr ydi hwn,” meddai’r fam gan ffroeni cledr ei llaw.

Cerddais i lawr y grisiau ac allan o’r tŷ. Cerddais o floc i floc ar hyd y strydoedd a’r gwynt yn fy hel fi yn fy mlaen. A’m ffrwyn ar fy ngwâr euthum am Faltimôr lle mae’r wisgi’n rhad a’r merchaid ddim ofn ysbrydion. Roeddwn i’n meddwl mai yno y cawn i hyd iddo fo. Roedd cerdded yn ddilyffethair yn braf a’m synhwyrau led y pen nes clywed pob brigyn o’r goedwig yn suo yn y gwynt a gweld llygad y lleuad mewn gwlithyn ar fonyn gwair. Sefais yn hir ar groesffordd wledig gan wrando’r gylfinir yn chwibianu o’r mynydd. Pan oedd o wedi gorffan gofynnais iddo oedd hi’n hawdd byw’n bruddglwyf am flynyddoedd. Edrychodd arnaf ym myw fy llygad a chodi ar ei adain heb roi imi atab yn y byd.

“Wfft i hyn i gyd,” meddwn innau gan feddwl ei chychwyn hi am adra. Ond doedd yna ddim adra’n bod felly es i yn fy mlaen.

“Suma’i, erstalwm,” meddai Wil Pont Ucha Braich gan gamu ataf ar draws y lôn.

“Mynd i Faltimôr?”

“Pam lai?” meddwn innau. Dangosais iddo fo lle cefais fy nghlwyfo yn fy nghoesau ac yntau’n tynnu gwynab sur.

Dywedodd Wil Pont Ucha Braich fod hogia’r syrcas wedi ei amgylchynu ger pwll y fawnog ddechra’r noson. Nid y sofran yn ei bocad oedd yr unig abwyd i’r lladron. Roeddan nhw am ei waed o hefyd.

“Pam na fasach di wedi sbïo dy newid?” meddai. “Ynteu smalio na welis ti mo’r sofran oeddach di?”

“Smalio dim,” meddwn i. “Toedd Llinos ond newydd ddeud wrtha’i ei bod hi’n disgwyl babi. Dim ond hynny a’r candi fflos oedd ar fy meddwl i.”

Ches i ddim mynd yr holl ffordd i Faltimôr wedi’r cwbwl. Dim ond ysbrydion go iawn sy’n cael mynd i Faltimôr hefo Wil Pont Ucha Braich. Roedd fy nghoesau’n simsanu a’m gwynt yn fy nwrn. A dyma chwa o wynt ar fy moch a’r munud nesa aeth llafn o eirlaw i’m clust nes oeddwn i’n crafangu am rywbeth i afael ynddo. Roeddwn i ar ystlys mynydd a’r grug yn fregus a’r pridd mân fel tywod berwi wyau rhwng fy mysedd. Clywais sŵn fy mwtsias mawr yn crafu’r graig a sylweddoli fy mod i’n cwympo’n ddilyffethair.

Glaniais ar fwrdd llong a’m stumog yn codi i’m gwddf wrth iddi bowlio a rhowlio fel corcyn ar y don. Roedd y glaw’n hyrddio a’r tonnau codi drosom ac wedyn yn suddo’n bantiau oddi tanom. Roedd y morwyr wedi hen glymu eu hunain i’r hwylbrenni. Gwnes arwydd y groes cyn canu’n iach a’r byd a phlymio i’r dŵr.

Ond nid trochion eigion môr lanwodd fy mhen ond awel braf drwy’r coed palmwydd ar erchwyn traeth a’r dail yn dawnsio hefo’r haul. Wedi gwasgu’r dŵr o gonglau fy llygaid gwelais fy mod ar fy hyd mewn tywod gwyn, mân a hwnnw’n gynnes. Clywais adar o’r coed yn sgrechian.

Y tro nesaf agorais fy llygaid roeddwn i’n ôl yma’n y theatr fach yn gorwedd ar wastad fy nghefn a’m breichiau ar led. Mae’r nodwydd yn fy mraich a’r gynulleidfa drwy’r gwydr yn disgwyl i’r sioe gychwyn. Efallai mai fel hyn ddaru amser rewi i Wil Pont Ucha Braich a fyntau’n suddo i bwll y fawnog. Dim ond geiriau yn ei ben a sŵn y syrcas yn cosi tu mewn i’w glustiau.

English

Read Next