For the English translation, please click here.
(ar achlysur Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd)
Mae'r ffin yn y cyffiniau,
pridd ei gwytnwch yn parhau
i serio'i hanes ar wyneb
erwau ein hiaith, ein tir neb.
Isel anadl Llywelyn
yw'n hiaith uwch y meini hyn,
yn herio mwy i'w siarad
a chyffroi uwch ei pharhad.
Rwy'n ei dal, ei dyfalu
yn law plwm, yn wely plu,
ein henaid, ein cyfrinach,
yn wrid byw, yn gariad bach:
èn eiliad, yn gennad, yn gân,
yn llewyg, yn dylluan,
yn ochenaid cofleidio,
yn fraw, èn ddafnau glaw, yn glo
marw, yn gwlwm hiraeth,
yn awr wedi'r wawr ar draeth,
yn chwedl ein cenhedlu,
èn awelon tân, yn lond tâ:
yn gasgen, yn gyflenwad,
èn oglau iaith, yn ganu gwlad,
yn rheg ar garreg, yn gri
yn achwyn drwy'r cromlechi:
èn adlais hud y chwedlau,
yn barhad, yn fywyd brau,
yn bris, yn ddewis, yn ddadl,
ni ein hunain, ein hanadl …
Isel anadl Llywelyn
yn fyw i ni yn fan hyn,
ym Muallt, ein llyw alltud
fu'n curo, curo cyhyd:
a'r ateb sy'n wefr eto,
èn rhaeadrau ar fryniau'r fro,
èn rhuthr a her, rhuthr a cherrynt
ymgyrchu'n gwaedu'r gwynt.
Rhwyga'r wawr drwy'r gororau
a'r haf o'i hâl yn cryfhau:
mae'n hiaith yn y meini hyn,
yn lle olaf Llywelyn.
Llanfair ym Muallt
Gorffennaf 1993