Cywydd Mawl Brodyr Bod Iwan
For the English translation, please click here.
Mae duwiau ym Mod Iwan,
duwiau'r gair, brodyr y gân,
yn dduwiau traed ar ddaear,
duwiau gwyllt, eneidiau gwâr:
Gerallt, sydd yn dallt y daith
yn ôl i Fadryn eilwaith;
ac Edmwnd, Edmwnd a âyr
fod twrw'n sân a synnwyr;
y dâr mawr, yr adar mân -
maen nhw yng nghwmni Ieuan:
Bu dau wrth fwrdd Bod Iwan,
dau a'u hiaith yn llwch ar dân,
mwg o iaith ar y paith pell
a Chamwy yn ei chymell;
dau yn dod drwy'r genod i gyd,
drwy'r afon fudur hefyd;
drwy'r dinasoedd, cyhoeddi
bod twrw un ym mhob tri;
dau yn sôn, fel dynion dall,
am dwrw cwmwd arall:
Daw awel i Fod Iwan
drwy'r dail, a'r hendre ar dân,
a daw'r ffos a dâr y ffydd
drwy fywydau'r hafodydd,
llwyn o fyrtwydd a llannerch,
a mwg fel gwahoddiad merch,
rhagor o win, oen ar groes,
mae'n nos yn Gaiman eisoes.
Heddiw'n ddoe, yn ddiwahân
mae daear ym Mod Iwan.
Dyffryn Camwy
Tachwedd 1998
This copy is for your personal, noncommercial use only. You can order presentation-ready copies for distribution by contacting us at info@wordswithoutborders.org.